0300 999 5428
BBC Woman's Hour, LBC, GRadioSee details of our radio talks and interviews over 2008
Domestic Violence FactsOf all violence, Domestic Violence has the highest rate of repeat instances. 46% will experience domestic violence twice or more. 1 in 4 with experience domestic violence three times or more.
- Membership for individuals and organisations
- You can donate, or use our links for your internet shopping.
- You can donate your time
- You can virtually donate your time by taking on specific tasks that can be completed at home
- You can donate your services: are you a photographer or a designer or writer...?
- Do you have a story to tell about LGBT DV?
- Have you got a comment to make or question to ask?
Cwestiynau Cyffredin
C: Does neb yn fy nharo. Sut all hyn fod yn drais domestig?
A: Nid yw trais domestig wastad yn gorfforol, ac mae hynny’n golygu nad yw’r arwyddion yn amlwg ar bob adeg. Gall trais gynnwys rheoli cyswllt rhywun gyda ffrindiau a theulu (eu hynysu), dinistrio eiddo, bygythiadau geiriol preifat neu gyhoeddus, ac ati.
C: A oes y fath beth a thrais domestig o ran pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol?
A: Derbyniodd ein llinell gymorth ar drais domestig i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol 800 o alwadau rhwng Ionawr ac Ebrill 2008. Fe siaradom am dros 35 awr â galwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol am drais domestig, cyfeirio, gwrando gweithredol, cynllunio diogelwch ac atgyfeirio neu ddarparu gwybodaeth.
Dengys arolygon bod o leiaf 1 o bob 4 o bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn profi trais domestig. Mae trais domestig yn bodoli ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol. Mae’n real.
C: Pan fydd dwy fenyw yn ymladd, onid ffrae fach rhwng cariadon yw hyn?
A: Does dim byd didaro am drais mewn perthynas, ac mae cyfeirio ato fel hyn yn lleihau ei effaith ac yn rheswm pam fod trais domestig ymysg pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn dal i fod yn broblem gudd.
C: Pan fydd dau ddyn yn ymladd, onid gemau rhyw tebyg i S&M yw hyn?
A: Arfer rhywiol yw sadomasocstiaeth. Mae trais domestig yn ymosodol ac un ochrog ac nid oes unrhyw fath o ganiatâd. Nid yw chwarae rôl rhywiol yr un peth â thrais domestig.
C: Onid yw trais domestig lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yr un peth a thrais domestig heterorywiol?
A: Mewn ffordd ydi, ond mae yna ambell wahaniaeth pwysig iawn. Un prif bwynt yw’r diffyg gwasanaethau cefnogaeth sydd ar gael i ddioddefwyr trais domestig lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol. Un arall yw gorfod dod allan er mwyn adrodd y trais domestig. Ar ben hynny, mae’r gwasanaethau rydym angen i’n cefnogi yn aml yn creu problemau trwy ddosbarthu trais domestig fel ymosodiad cyffredin, neu gamgymryd/peidio gallu adnabod y troseddwr. Golyga hyn fod gan bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol broblemau ychwanegol wrth chwilio am gymorth.
C: Sut all fod yn drais domestig os yw’r un llai yn taro’r un mwy?
A: Ni adlewyrchir maint na thaldra yn ymddygiad ymosodol rhywun. Nid yw’r ffaith fod rhywun yn llai yn golygu na allant eich taro, dinistrio’ch eiddo, bygwth eich allanu i’ch ffrindiau a theulu, rheoli eich cyllid neu’ch bychanu o flaen eraill.
C: Beth yw’r fantais o’ch ffonio chi am gymorth yn hytrach na llinell gymorth gyffredin?
A: Mae pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn deall yn reddfol y materion a phroblemau y bydd unigolion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol eraill yn wynebu. Ni fydd ein gweithwyr sesiynol yn eich beirniadu oherwydd eich rhywioldeb; maent yn delio â’r rhai sy’n dioddefo o drais domestig a’r rhai sy’n ei achosi.