0300 999 5428
BBC Woman's Hour, LBC, GRadioSee details of our radio talks and interviews over 2008
Domestic Violence FactsOf all violence, Domestic Violence has the highest rate of repeat instances. 46% will experience domestic violence twice or more. 1 in 4 with experience domestic violence three times or more.
- Membership for individuals and organisations
- You can donate, or use our links for your internet shopping.
- You can donate your time
- You can virtually donate your time by taking on specific tasks that can be completed at home
- You can donate your services: are you a photographer or a designer or writer...?
- Do you have a story to tell about LGBT DV?
- Have you got a comment to make or question to ask?
Dyfyniadau
Rita Hirani, Prif Swyddog Gweithredol Interim: Mae’n llinell gymorth yn rhywle gall pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol droi i drafod problemau gyda rhywun sy’n deall y materion diwylliannol a’r cyd-destun.
Greg, llinell gymorth: Mae yna gamddehongliad bod pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn mynd i bartis o hyd, yn gwario eu ‘punt binc’ a mwynhau eu hunain. Y gwir amdani i nifer o bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yw bod tlodi, gwahaniaethu, homoffobia a thrais domestig yn gadael ei farc ar ein bywydau. Rydym angen dod a hyn gerbron y cyhoedd a mynnu gwasanaethau fydd yn herio’r anghydraddoldeb hwn.
Iona Fiesta, golygydd OUTSKIRTS: Mae Trais Domestig lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn dipyn o sefyllfa ‘eliffant yn yr ystafell’: mae pawb yn gwybod ei fod yno, fwy na thebyg rydym yn adnabod rhywun sydd wedi ei brofi, ond mae gormod ohonom yn fodlon camu’n ofalus o’i gwmpas yn hytrach na wynebu’r gwirionedd. Efallai mai cywilydd sydd ar fai – rydym mor brysur yn trio perswadio’r byd bod pobl hoyw yn ddinasyddion da, cyfrifol fel na allwn dderbyn bod gennym yr un beiau a phawb arall. Ac eto byddai’n cymuned yn llawer cryfach o dderbyn hyn.
Pauline, Goroeswr trais domestig, Llundain: Y trobwynt i mi oedd gallu gwahanu fy nghariad tuag at y fenyw wreiddiol y cwrddais â hi a’r ffaith na allwn ei newid hi, a gweld nad fy mai i oedd yr ochr ac ymddygiad negyddol yr oedd yn cyfeirio tuag ataf ac na fyddai’n dod i ben. Byddai ei hymddygiad yn parhau ac yn trosglwyddo i rywbeth arall a gwaethygu wrth i mi ddal i’w dderbyn. Mae trais domestig yn gwaethygu wrth fynd yn ei flaen. Wedi dechrau, ni fydd yn dod i ben oni bai y gweithredir yn bositif i’w atal.